669 Mawr yw y wyrth
James Nicholas
Mawr yw y wyrth; | y mae | rhin ||
i'r enaid yn y | rhannu | cyfrin; ||
briwiau ei gorff yw’r | bara a’r | gwin ||
a roed mor | anghy- | ffredin. ||
Hon yw’r rhodd | inni a | roddwyd; ||
o’r cnawd hwn daw’r cnwd | hael : gynae- | afwyd; ||
gwaed yr | archoll a | gollwyd, ||
Brenin y boen, | bara: ein | bwyd. ||
Diolch a | wnawn yn | dawel ||
am ein rhan, yma’n | rhinwedd | dirgel: |
y dorth, y gwaed, y | wyrth | gêl; ||
yn y naws, | plygwn yn | isel. ||
Gwnewch hyn er cof, | dyna’r | cofio ||
yn falm ar | fwrdd : y cy- |muno; ||
yn y wledd | rhown fawl | iddo, ||
trwy ei waed cawn | fywyd | dro. ||